Yn Cofio Guernika- Remembering Guernika

Mi fydd yn 80 mlynedd ers ymysodiad bomio ar Guernika, pentref yn Gwlad y Basg mis yma.  Dyma erthygl am yr erchyllter a’r cefnogaeth gath Gwlad y Basg gan Gymru yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen.

Chwech o luniau gan blant 1937 a’u pensiliau lliw ydyn nhw. Mae glesni yn yr awyr yn un o’r lluniau. Stryd o dai lliwgar mewn un arall. Mewn nifer, mae llun cert llwythog a cheffyl, a chriw o bobl yn gwagio tŷ. Ond yng nghanol y naturioldeb hwnnw, mae lluniau o awyrennau, bomiau, bwledi a chyrff. Doedd y tai na’r siopau – na’r strydoedd hyd yn oed – ddim yn bod ond yng nghof y chwe phlentyn pan aethant ati i dynnu’r lluniau. Ffoaduriaid o Gernika oedd y plant.

Mae’r chwe llun yn rhan o gasgliad Amgueddfa ac Oriel Gwynedd yn eu canolfan newydd, Storiel ym Mangor. Cawsant eu cyflwyno i’r archif yn 1973 gan newyddiadurwr o Farian-glas, Môn – John Williams Hughes – a gafodd ei gynhyrfu gan ymosodiadau’r Ffasgwyr yn Sbaen ar lywodraeth ddemocrataidd y wlad gan achosi Rhyfel Cartref yno. Roedd yn ysgrifennydd Pwyllgor Cymorth i Sbaen Gogledd Cymru a grëodd apêl lwyddiannus gan godi £500 yn gyflym. Defnyddiwyd y gronfa i baratoi ambiwlans, ei chuddliwio â phaent glas, brown a gwyrdd, ei stocio ag offer a thîm meddygol, gosod draig goch ar ei bonet a John ei hun wrth y llyw a’i gyrru i Fadrid. Bu’r newyddiadurwr yno am rai wythnosau yn gwirfoddoli gyda’r Groes Goch yn y brifddinas ac yna yn Valencia.

Cyfrannodd erthyglau i’r wasg yng Nghymru tra oedd yno ac ar ôl dychwelyd. Tra oedd yn Sbaen, cyfarfu â rhai o ffoaduriaid gwlad y Basg. Gwyliodd blant o Gernika yn gwneud lluniau â phensiliau lliw gan ddarlunio’u strydoedd a’r awyrennau yn eu bomio. Roedd y lluniau hyn yn cael eu dosbarthu i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r gyflafan a phan ddychwelodd John WilliamsHughes i Gymru, daeth â chwech o’r lluniau hyn gydag o.

Mae manylion bychain yn y lluniau sy’n frawychus o agos at gofnodion hanesyddol o’r bomio a ddioddefodd Gernika, 26 Ebrill 1937. Roedd hi’n ddiwrnod gwanwynol, clir – doedd y bomwyr ddim yn hedfan os oedd hi’n gymylog neu niwlog bryd hynny. Bomiwyd adeiladau, ond hefyd erlidiai’r awyrennau bobl oedd yn ffoi gan eu saethu gyda’u gynnau peiriant. Wedi’r bomiau trymaf, gollyngwyd bomiau tân nad oedd ond yn gwneud twll bychan mewn to teils ond byddai’r fflamau’n llyncu trawstiau’r adeilad wrth iddynt ffrwydro. Mae mwy nag un to teils yn lluniau’r plant gyda thyllau crwn, melyn ynddynt.

Lladdwyd 1654 ac anafwyd 889 o bobl a phlant yn yr ymosodiad hwnnw ar ddiwrnod marchnad yn Gernika a llosgwyd 90% o adeiladau’r dref. Hwn oedd y dinistr dinesig gwaethaf yn Ewrop ar y pryd, gydag awyrennau Hitler a Mussolini yn cefnogi cyrch Franco yng ngwlad y Basg, gan ymarfer ar gyfer cyrchoedd tebyg ar eu hagenda eu hunain. Er bod ffatrïoedd arfau yn y ddinas, y bobl a’r plant oedd y targedau a rhyfela drwy greu torcalon oedd y nod.

Roedd ymerodraethau’r gorllewin wedi defnyddio’r dacteg hon mewn gwledydd eraill ers pymtheng mlynedd a mwy – ond roedd y rheiny’n ddiogel bell o gyrraedd y wasg a’r cyhoedd. Bomiwyd dinasoedd yn Iran, India, Rwsia, Palestina, yr Aifft, Sudan gan gynnwys gollwng nwy gwenwynig ar y Cwrdiaid, gan awyrennau Prydain 1919-1930. Ceisiodd yr Almaen wahardd bomio o’r awyr yng nghynhadledd Cynghrair y Cenhedloedd yn 1932 (roedd hyn cyn i Hitler ddod i rym) ond roedd Prydain ac America yn gwrthwynebu.

Cododd lleisiau yn erbyn hyn yng Nghymru yn ogystal. Yn 1935, cynhaliwyd ‘Balot Heddwch’ yng ngwledydd Prydain, sef refferendwm yn rhoi cyfle i’r cyhoedd leisio barn ar nifer o faterion yn ymwneud â rhyfela ac arfogi. Bu canfasio dygn yng Nghymru ac aeth 64% o’r etholwyr i fwrw pleidlais – dwywaith y nifer mewn rhannau eraill o’r wladwriaeth. Ar bwynt ‘a ddylid caniatau bomio trefi a dinasoedd o’r awyr’, roedd 90% o etholwyr Cymru yn gwrthwynebu’r math newydd hwn o ryfela.

Dyma gyfnod meddiannu mwy a mwy o dir i’r lluoedd arfog a’r bygythiad i ddod ag Ysgol Fomio i Benyberth, Llŷn. Er bod gwrthwynebiad cenedlaetholgar i’r bygythiad hwnnw, sef amddiffyn daear Cymru rhag cael ei defnyddio gan Swyddfa Ryfel Llundain, roedd protestio yn erbyn yr egwyddor o fomio dinesig. Wrth annerch cyfarfod o gangen sir Gaernarfon o Blaid Genedlaethol Cymru yng Nghaernarfon yn 1936, dywedodd Saunders Lewis: ‘Pennaf nod y bomio fydd dinistrio dinasoedd, eu llosgi a’u gwenwyno, troi gwareiddiad y canrifoedd yn ulw, gollwng i lawr, allan o ddiogelwch yr awyr, yr angau creulonaf ar wragedd a phlant a gwŷr di-arf a diamddiffyn, a sicrhau, os dianc rhai a’u bywydau ganddynt, na bydd nac annedd na bwyd i’w porthi nac aelwyd i’w cadw yn fyw.’

Mae’r anerchiad ‘Brwydr yr Ysgol Fomio’ a gyhoeddwyd ar gyfer cyfarfod croesawu’r Tri o garchar yn pwysleisio mai ymosod yn hytrach nac amddiffyn oedd diben yr Ysgol Fomio. Dyfynnwyd geiriau Baldwin pan oedd yn Brif Weinidog mai dysgu lladd mewn gwaed oer oedd diben yr addysg ynddi. Dysgu sut i ‘ddinistrio dinasoedd, eu llosgi a’u gwenwyno, troi gwareiddiad y canrifoedd yn ulw, gollwng i lawr, allan o ddiogelwch yr awyr yr angau creulonaf ar wragedd a phlant a gwŷr di-arf a di-amddiffyn, a sicrhau, os dianc rhai â’u bywydau ganddynt, na bydd nac annedd na bwyd i’w porthi nac aelwyd i’w cadw’n fyw.’

Tra oedd Tri Penyberth yng ngharchar Wormwood Scrubs am losgi RAF Penrhos y bomiwyd Gernika. Wythnos ar ôl y bomio didrugaredd, cyhoeddwyd llythyr gan Cyril P. Cule, Cymro arall oedd wedi treulio amser yn Sbaen ac wedi bod yn llygad-dyst i ddigwyddiadau cynnar y Rhyfel Cartref. Mae’r pennawd ‘Porth Neigwl a Gernica’ yn clymu’r Ysgol Fomio yn Llŷn wrth y gyflafan yng ngwlad y Basg. Yng ngeiriau’r llythyrwr, mae’n cysylltu ‘fandaliaeth llywodraeth Mr Baldwin yn chwalu un o gysegrleoedd ein cenedl i adeiladu ysgol fomio’ gyda gwaith ‘cyfeillion annwyl Mr Baldwin (Franco, Hitler, Mussolini) yn bomio’r ddinas gysegredig honno gan ladd cannoedd o bobl a saethu’r ffoedigion yn y caeau oddi amgylch . . . ’

Y bobl hynny sy’n cael eu darlunio yn lluniau’r plant a gedwir yn Storiel – yn ystod storm y bomiau a’r fflamau, maent yn ceisio arbed hynny sy’n bosib o’u tai a’u llwytho ar y certi cyn ffoi am y porthladdoedd. Certi pren, olwynion trol a cheffylau ar y strydoedd a’r peiriannau hollalluog diweddaraf yn yr awyr uwch eu pennau.

Eleni, mae’n 80 mlynedd ers dinistr Gernika. Daeth llond bws mini o wlad y Basg i Lŷn ychydig wedi’r Calan eleni. Cawsant eu cyffwrdd ein bod yn cofio hynny a’n bod yn cysylltu Penyberth a’r gyflafan hyd yn oed. Maent wedi arfer cael eu hanwybyddu neu eu herlid. Pan ddaeth 4,000 o blant gwlad y Basg i wledydd Prydain ym Mai 1937, bu rhai yn frwd yn eu croesawu ac yn cynnal cartrefi iddynt, ond aeth eraill ati i sefydlu ‘Basque Children’s Repatriation Committee’ gan honni ei bod hi’n ddiogel iddynt ddychwelyd i’w gwlad eu hunain bellach am fod y sefyllfa yn ‘normal’ yno unwaith eto. Ystyr hynny oedd bod Franco wedi meddiannu’r holl wlad a bod rhai o rieni’r plant mewn carchar ac eraill mewn beddau.

Er mai Tri Penyberth a dderbyniodd gyfrifoldeb am weithred y Tân yn Llŷn, datgelwyd rhyw hanner can mlynedd yn ddiweddarach bod pump arall wedi bod yn eu cynorthwyo ond y cynllun oedd bod tri gŵr amlwg ym mywyd Cymru yn cael eu carcharu a bod y lleill yn parhau gyda’r ymgyrch yn y cyfamser. Wedi imi symud i fyw i Lŷn, clywais fod nawfed aelod o’r tîm. Merch fferm yn Rhydyclafdy oedd hi, wedi bod yn fyfyrwraig yn y brifysgol ym Mangor. Roedd wedi astudio Cymraeg gyda R. Williams Parry yn un o’i darlithwyr, ac erbyn 1936 roedd yn athrawes ifanc ei hun. Ei henw oedd Lydia Roberts, Penrhynydyn. Gan ei bod o Rydyclafdy, dim ond hi fyddai’n gwybod am y llwybr cyfleus drwy’r eithin, ar hyd y gefnen ac i lawr i Benyberth. Hi ddangosodd y llwybr hwnnw i Saunders Lewis pan ymwelodd â’r ardal ddwywaith yn ystod haf 1936 wrth gynllunio’r ymosodiad ar yr Ysgol Fomio. Hi, hefyd, oedd fy athrawes Gymraeg gyntaf – Lydia Hughes oedd ei henw erbyn hynny, yn byw yn Nolgarrog ac yn ein dysgu am y cynganeddion, hen benillion, R. Williams Parry ac enwau lleoedd yn ardal Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst. Pan glywais am ei chyfraniad i hanes y Tân yn Llŷn, daeth awydd mawr i sgwennu ei stori. Nofel am Lyn a gwlad y Basg ydi Mae’r Lleuad yn Goch a bydd yn cael ei chyhoeddi ar Ddydd Gernika eleni.

Elfen arall yn y nofel yw’r cysylltiad morwrol rhwng Cymru a gwlad y Basg. Cyn 1936, roedd llawer o’r llongau oedd yn masnachu rhwng Prydain a Sbaen yn eiddo i gwmnïau o dde Cymru gan mai glo Cymreig a mwyn haearn o ardal Bilbo, prifddinas y Basgiaid oedd y prif allforion/mewnforion. Llongau ‘tramp’, tua 4,500 tunnell oedd y rhan fwyaf o’r rhain. Ar ddechrau’r Rhyfel Cartref, roedd Franco a’i gynghreiriaid yn ymosod ac yn suddo llongau fel y mynnai o gwmpas arfordir Sbaen er mwyn ceisio ennill rheolaeth ar y môr. Penderfynodd llywodraethau Llundain, Ffrainc a Washington ‘beidio ag ymyrryd’ a thrwy hynny ganiatau i’r ymosodiadau a’r colledion barhau.

Yng ngwanwyn 1937, creodd Franco flocâd ar borthladdoedd gwlad y Basg gyda’r bwriad o dorri ysbryd ei wrthwynebwyr drwy eu llwgu. Ceisiodd rhai o’r ‘llongau tramp’ barhau i fasnachu â’u hen borthladdoedd gan lwytho cargo o fwyd ac anelu am wlad y Basg. Caent eu rhybuddio a’u rhwystro rhag mynd yn agos at ‘arfordir Franco’ gan longau rhyfel Prydain a’u cyfeirio at borthladdoedd cyfagos yn Ffrainc. Yno’r oedd y wasg ryngwladol yn chwilio am stori a daeth rhai o’r capteiniaid yn gymeriadau lled-chwedlonol. Cymry oeddent, fel David John Jones, capten y Marie Llewellyn a roddodd y gorau i’w ymddeoliad yn Abertawe er mwyn cario llwyth o datws i Bilbo Ebrill 15/16, 1937. Gan fod cymaint o’r Cymry’n cario’r cyfenw ‘Jones’, cawsant eu glasenwi yn ôl eu cargo a daeth ‘Captain Potato Jones’, ‘Captain Ham and Eggs Jones’ a ‘Captain Corn Cob Jones’ yn enwau rhyngwladol. Torrwyd blocâd Bilbo yn y diwedd gan y Capten W. H. Roberts o Benarth ac fe’i anrhydeddwyd gyda derbyniad swyddogol gan weinidogion Llywodraeth gwlad y Basg. Mae’r Basgiaid yn dal i gyfeirio’n ddiolchgar at gampau’r ‘Welsh navy’ hyd heddiw.

O ddiddordeb personol i mi oedd bod pedwar llongwr o Lŷn yn cael eu henwi fel aelodau o griw un o’r llongau oedd yn herio blocâd Franco. Cofrestwyd yr African Mariner yn y Barri a bu’n cario ŷd o’r Môr Du i Barcelona.

Drwy gynnwys yr hanes yn y papur bro Llanw Llŷn, cafwyd cysylltiad â nifer o deuluoedd y pedwar morwr a chafwyd eu storiau mewn mwy o fanylder: ‘ Cafodd yr African Mariner ei difrodi yn harbwr Barcelona ar 24 Medi, 1938 pan ollyngwyd bom o un o awyrennau’r Ffasgwyr yn agos ati. Ni chafodd neb ei anafu ar y llong, ond lladdwyd pump ac anafwyd 21 ar y cei yn ystod yr un ymosodiad. Ar 3 Hydref, trawyd y llong yn uniongyrchol gan fom – aeth drwy ddau ddec a ffrwydro yng nghanol y cargo gwenith. Bu’r grawn yn fodd o liniaru effaith y ffrwydriad ac unwaith eto, nid anafwyd neb. Cafodd ddifrod pellach ar 5 Rhagfyr ond ar 22 Ionawr, 1939 cafodd ei bomio’n ddrwg a lladdwyd pedwar morwr o wlad Groeg oedd arni. Roedd cyflwr y llong cynddrwg nes iddi suddo yn yr harbwr drannoeth… Cael a chael oedd hi i’r pedwar o ardal Pwllheli – Tom Williams, Humphrey Roberts, Gwynfor Jones a Robin Williams – i ddianc mewn pryd. Syrthiodd Barcelona i ddwylo lluoedd Franco ar 26 Ionawr ond erbyn hynny roedd y morwyr wedi llwyddo i groesi’r Pyreneau, yna mynd am Marseilles a chael trên yn ôl adref.’

Yn Mae’r Lleuad yn Goch, mae hanes llosgi’r Ysgol Fomio a dinistrio Gernika yn dod ynghyd. Er mai dychmygol yw’r stori, mae’r digwyddiadau’n rhai hanesyddol. Bydd yn cael ei lansio yn Storiel, Bangor a bydd cyfle i weld y lluniau a wnaed gan ffoaduriaid o wlad y Basg bryd hynny hefyd. Weithiau mae angen y cof a’r dychymyg er mwyn dod yn nes at hanes.

 

Ffynonellau

Cule, Cyril P., ‘Porth Neigwl a Guernica’, Llythyrau at y Golygydd, Y Cymro, 8 Mai 1937

Cule, Cyril P., Cymro ar Grwydr, Llandysul, 1941

Coelcerth Rhyddid – Croeso i’r Tri, pamffledyn Plaid Cymru 1937

Heaton, P. M.; Welsh Blackade Runners in the Spanish Civil War, The Starling Press, Casnewydd, 1985

Williams, Dafydd Glyn; Looking Back, Pwllheli (cyhoeddiad preifat), 2013

 

 

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s