COLLI BYS DROS HEDDWCH

Gan Bethan Siân Jones

Yn ystod y Rhyfel Oer ym Mhrydain, cyflwynwyd strategaethau amddiffyn sifil, a bu adeiladu bynceri yn un ohonynt. Ym 1985 derbyniodd Cyngor Dosbarth Caerfyrddin grant o £45,000 gan y Swyddfa Gartref i adeiladu byncer gwerth £60,000. Byddai’r byncer ond yn darparu lloches ar gyfer wyth person – a bwriad y Cyngor oedd defnyddio arian trethdalwyr i dalu gweddill y £15,000. Yn nodweddiadol, heb ganiatâd cynllunio, dechreuodd y Cyngor adeiladu’r byncer mewn ardal a oedd i fod yn ddi-niwclear. Yn wir, erbyn 1982 roedd pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi’i ddatgan yn ardaloedd di-niwclear gan wneud Cymru oll yn wlad ddi-niwclear. Sbarduniwyd ymgyrch gan bobl gyffredin Caerfyrddin a oedd yn gwrthwynebu’r byncer, ac fe’i gelwid yn Ymgyrch Gwrth-Fyncer Caerfyrddin. Atynnodd yr ymgyrch gefnogaeth a chyfranogaeth oddi ar lu o bobl amrywiol, yn lleol ac yn genedlaethol. Ymgyrch graff ydoedd gan nid yn unig oedd yn gwrthwynebu’r byncer yn foesol, ond mi oedd hefyd yn ei wrthwynebu ar sail gyfreithiol, o ganlyniad i ddiffyg caniatâd cynllunio’r Cyngor.

Yn nyddiau cynnar yr ymgyrch, aeth y protestwyr ati i feddiannu’r byncer er mwyn atal ei adeiladwaith. Cysgon nhw ar sylfaeni concrid y byncer am ychydig o wythnosau gan wrthod symud. Derbynion nhw ymwelwyr cyson gan gynnwys Maer Caerfyrddin a ddaeth â sglodion i’r meddianwyr gyda’r nos. Ymddangosodd baneri CND enfawr y tu allan i ambell i ffenestr mewn adeiladau’r Cyngor, hyd yn oed! Er roeddent yno i amddiffyn y byncer, bu swyddogion diogelwch y Cyngor yn llac iawn gyda’r protestwyr – gan ganiatáu iddynt fynd i mewn i ardal adeiladu’r byncer er mwyn protestio.

TRAIS

Ar ôl i’r protestwyr bod wrthi am wythnosau’n meddiannu’r byncer, cael eu herlid wnaethant, ac yna cafodd y byncer ei feddiannu unwaith eto. Ar ôl cyfres o ddadleuon yn y llys, llwyddodd y Cyngor i roi caniatâd cynllunio i’w hunain. Cododd y Cyngor ffens 12 troedfedd o amgylch y byncer a diswyddodd ei swyddogion diogelwch gan logi cwmni preifat yn ei le. Cwmni diogelwch Pritchards oedd y cwmni newydd, ac yn flaenorol roeddent wedi bod yn gweithio yn Ne Affrica yn ystod Apartheid. Er mai protestio trwy ddulliau heddychlon wnaeth protestwyr Ymgyrch-Gwrth Fyncer Caerfyrddin, cafodd cŵn a thrais eu defnyddio yn eu herbyn er mwyn amddiffyn y byncer. Cafodd un protestiwr ei daro ar gefn ei wddf gan swyddog diogelwch ac wrth iddo gwympo i’r llawr, brathodd ci diogelwch ei goes. Mewn achos arall, cafodd cynghorydd ei frathu gan gi diogelwch ar y ffordd yn ôl i’w gar ym maes parcio’r Cyngor. Yn eironig, roedd y cynghorydd wedi bod yn dadlau yn erbyn adeiladu’r byncer mewn trafodaeth dwy awr o hyd yn union cyn yr ymosodiad. Yn ôl atgofion y protestwyr a fu’n rhan o Ymgyrch Gwrth-Fyncer Caerfyrddin, y menywod a dderbyniodd y trais gwaethaf. Cafodd cyhuddiadau eu gwneud yn erbyn swyddogion diogelwch Pritchards am gyffwrdd â menywod yn anweddus tra’n eu symud oddi ar safle’r byncer. Yr achos mwyaf erchyll o drais oedd achos Dr Sue Pester. Mewn protest fawr yn Ionawr 1986, dringodd Sue’r ffens a oedd yn amgylchu’r byncer. Ei reswm oedd cael golwg well ar yr hyn a oedd yn digwydd oherwydd roedd ei ffrind ar safle’r byncer gyda’r swyddogion diogelwch. Yn sydyn, teimlodd ei hun yn cael ei thynnu wisg ei chefn gan rym anferthol swyddog diogelwch. Wrth gael ei thynnu i’r llawr, daeth ei bysedd yn sownd yn y ffens, ond parhaodd y swyddog diogelwch ei thynnu nes rhwygo un o’i bysedd i ffwrdd. Cofiodd Sue’r ddigwyddiad fel a ganlyn:

“When I saw that I had lost my finger I knew that I would need treatment. A couple of people around me came to my aid. People started shouting. I was very concerned because I’m a very small woman, I’m only 5ft tall, the security guard who had injured me was a tall man. I could see that could be a situation which could easily escalate into violence, and that was what we had been determined right from the outset wouldn’t happen. So my first thought was to try and stay calm, to make sure the situation was calm, to reassure people that I was OK while a couple of friends helped me to get round to the front of the building where an ambulance could be accessed. So it was a question of trying to reassure people, keep calm. Perhaps I needed to keep calm too. It was quite a shocking experience… and to try and get some medical help, but I didn’t want to be carried off – I walked but with somebody on each side who was just assisting me so I didn’t fall or anything. And I tried to hold my hand to stop the bleeding.”

Yn ddiweddarach, cafodd Sue achos llys preifat yn erbyn y cwmni diogelwch am ei hanafiadau. Bu’r achos yn aflwyddiannus. Gwadodd y swyddog diogelwch ei bod wedi achosi niwed corfforol iddi. Honnodd ei bod wedi mynd at Sue tra oedd ar y ffens er mwyn ei chynnal a’i hatal rhag syrthio i’r ddaear. Ni dderbyniodd Sue unrhyw gyfiawnder am ei hanafiadau a chafodd y mater ei anwybyddu gan Margaret Thatcher yn ogystal. Serch hynny, mi atynnodd stori Sue lawer o sylw gan y cyhoedd. Yn wir, teithiodd y bardd R.S Thomas i lawr o Ogledd Cymru i Gaerfyrddin ar ôl iddo glywed am hanes Sue. Eisteddodd y bardd wrth ochr y byncer gyda’i draed yn hongian drosti er mwyn gweld os byddai’n cael ei arestio neu beidio.

Rhoddodd y Cyngor y gorau i adeiladu’r byncer, ac ni ddefnyddiwyd erioed. Mae’n dal i fodoli ym maes parcio Cyngor Dosbarth Caerfyrddin. Daeth ei wariant i £400,000 o’i gymharu â’i swm gwreiddiol o £60,000. Yn ôl pob sôn, mi oedd y byncer yn gollwng dŵr blynyddoedd wedyn – sydd wir yn cwestiynu’i effeithlonrwydd mewn rhyfel niwclear wedi’r cwbl! Er nad oedd y protestwyr wedi atal y byncer rhag cael ei adeiladu, mi oeddent yn llwyddiannus yn y modd wnaethant atynnu sylw’r cyhoedd at y paratoadau roedd y Deyrnas Unedig yn ei wneud tuag at ryfel niwclear. Pwysig ydyw i gydnabod aberth a dewrder yr unigolion yma.

I gloi gyda dyfyniad gan Sue:

“…it’s not something I would have volunteered to have happened to me because, actually the loss of a finger, it does effect a number of things to do with your hand and it’s extremely inconvenient and sometimes still quite painful. But, in the scheme of things, the loss of a little finger compared to a nuclear war doesn’t really weigh up!”

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s