Thomas Evan Nicholas (Niclas y Glais)

Cymraeg

Nioclas GlasThomas Evan Nicholas – otherwise known as “Niclas y Glais” – was born in rural West Wales in 1879. Niclas was a passionate believer in peace. He preached against war every Sunday during WWI and was eventually imprisoned for his pacifist stance during WWII. As a member of the Independent Labour Party (ILP) he stood up for the rights of the poor. He was also a prolific poet. During his time in prison he wrote 150 sonnets on pieces of toilet paper, which were later published in the volume ‘Canu’r Carchar’ (‘Prison Sonnets’). He died in 1971.

Thomas Evan Nicholas was the son of Dafydd and Bet, of Y Llety, Pentregalar. He was born on October 8th. 1879 on the slopes of Foel Dyrch in the Preseli Hills, Pembrokeshire. Times were hard. There were 6 children in the family, and Y Llety was a rented smallholding. The landlords called from time to time to ensure the money was paid.

He later became known as Niclas y Glais – y Glais being the name of the Chapel where he was minister for a period.

It is often argued that the community of the Preseli Hills represented the socialist ideal for Niclas – a community where people cooperated for each other’s good. It was a civilized society where ideas, stories, debates, sermons and politics were shared. There was a great deal of sharing of books and journals, too. Niclas was introduced to what was happening in Parliament by the newspaper ‘Baner ac Amserau Cymru’ published by Thomas Gee.

His first job was as a messenger to The Swan public house. The journey by horse and cart from the Swan to Crymych gave him the chance to learn chunks of poetry by heart. He was often told off by his boss for taking too long over the trip, which tended to happen if he had a lengthy piece to learn!

Early in his life he became aware that the ‘system’ was unfair – ‘the system’ being the way society was ordered. Niclas believed that the traditional ‘fairness’ of Welsh people – their system built on a sense of ‘fair play’ – was their contribution to the world.

When the First World War broke out, Niclas was a minister in Llangybi, Cardiganshire. He could not see war as part of Christ’s teaching, and preached against it every Sunday. Policemen were sent to listen to his sermons. Because of his anti-war stance, he had a tough time, but surprisingly – given the anti-German fever which was sweeping Britain at the time – he wasn’t arrested.

In 1918, he was selected as the Independent Labour Party (I.L.P.) candidate for the seat of Aberdare. He is said to have lost the election when he was asked, ‘Would you shake hands with a German?’ and he replied, ‘Of course. Why ever not?’.

By the time the second World War came the authorities seized the opportunity to take Niclas to court in 1939 when the ‘Emergency Powers (Defence) Act’ became law. This law allowed the authorities to imprison anyone who ‘impaired the war effort’. Niclas and his son, Islwyn, were accused of being Fascists, although both were staunch Socialists!

When Niclas and Islwyn were in Brixton jail, the surrounding area was regularly bombed. They were locked in their cells without any light while the German planes circled overhead. They were imprisoned in the area kept for ‘Aliens’ (i.e. foreigners) and were not allowed to go to the shelters like the other prisoners, but had to stay put as the prison shook.

While in prison, Niclas perfected the craft of the sonnet. The 14 lines of a sonnet fitted perfectly on a piece of toilet paper – thus it was the ideal form for a prisoner-poet! These were later published as ‘Canu’r Carchar’ (and translated into English as ‘Prison Sonnets’).

Niclas didn’t live to see the egalitarian society he dreamed of, but his vision remains.


Thomas Evan Nicholas (Niclas y Glais)

Nioclas Glas Ganed Thomas Evan Nicholas – neu fel roedd yn cael ei adnabod “Niclas y Glais” – yng nghefn gwlad gorllewin Cymru yn 1879. Roedd Niclas yn credu’n gryf mewn heddwch. Roedd yn pregethu yn erbyn y rhyfel bob dydd Sul yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn y pen draw, cafodd ei garcharu am ei safiad fel heddychwr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fel aelod o’r Blaid Lafur Annibynnol (ILP), roedd yn sefyll dros hawliau pobl dlawd. Roedd hefyd yn fardd prysur iawn. Yn ystod ei gyfnod yn y carchar, ysgrifennodd 150 o sonedau ar ddarnau o bapur tŷ bach a gyhoeddwyd yn ddiweddarach mewn cyfrol o’r enw ‘Canu’r Carchar’. Bu farw yn 1971.

Roedd Thomas Evan Nicholas yn fab i Dafydd a Bet, o’r Llety, Pentregalar. Cafodd ei eni ar 8 Hydref 1879, ar lethrau Foel Dyrch yn y Preselau, Sir Benfro. Roedd hi’n gyfnod anodd. Roedd 6 phlentyn yn y teulu ac roedd y Llety yn dyddyn wedi’i rentu. Byddai’r landlordiaid yn galw o bryd i’w gilydd i sicrhau bod y rhent yn cael ei dalu.

Yn ddiweddarach, roedd yn cael ei adnabod fel Niclas y Glais – y Glais oedd y Capel lle roedd yn weinidog am gyfnod.

Mae pobl yn dweud yn aml mai’r gymuned yn ardal y Preselau oedd yn cynrychioli’r ddelfryd sosialaidd i Niclas – cymuned lle roedd pawb yn cydweithredu er budd ei gilydd. Roedd yn gymdeithas waraidd lle roedd pobl yn rhannu syniadau, straeon, trafodaethau, pregethau a gwleidyddiaeth. Roedd llawer hefyd yn rhannu llyfrau a chyfnodolion. Daeth Niclas i ddarllen am yr hyn oedd yn digwydd yn y Senedd drwy ‘Faner ac Amserau Cymru’, papur newydd a oedd yn cael ei gyhoeddi gan Thomas Gee.

Ei swydd gyntaf oedd negesydd i dafarn The Swan. Roedd y siwrne gyda chert a cheffyl o’r Swan i Grymych yn gyfle iddo ddysgu darnau o farddoniaeth ar ei gof. Byddai ei reolwr yn ei ddwrdio yn aml am gymryd gormod o amser i deithio, rhywbeth oedd yn tueddu i ddigwydd os oes ganddo fe ddarn hir i’w ddysgu!

Yn gynnar yn ystod ei fywyd, daeth yn ymwybodol bod y ‘drefn’ yn annheg – ‘y drefn’ oedd sut roedd cymdeithas wedi’i strwythuro. Roedd Niclas yn credu mai ‘tegwch’ traddodiadol y Cymry – eu trefn nhw oedd wedi’i chreu yn ôl eu synnwyr o ‘chwarae teg’ – oedd eu cyfraniad i’r byd.

Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Niclas yn weinidog yn Llangybi, Ceredigion. I Niclas, nid oedd rhyfel yn rhan o ddysgeidiaeth Iesu Grist, ac roedd yn pregethu yn ei erbyn bob dydd Sul. Anfonwyd heddlu i wrando ar ei bregethau. Oherwydd ei safbwynt heddychlon, cafodd amser anodd, ond yn rhyfeddol, o gofio’r ysbryd gwrth-Almeinig chwyrn oedd ym mhob man ar y pryd ym Mhrydain, ni chafodd ei arestio.

Yn 1918, cafodd ei ddewis fel ymgeisydd y Blaid Lafur Annibynnol ar gyfer sedd Aberdâr. Mae’n debyg iddo golli’r etholiad pan ofynnwyd iddo, ‘A fuasech chi’n ysgwyd dwylo gydag Almaenwr?’ a’i ateb oedd, ‘Wrth gwrs. Pam na fuaswn i?’.

Erbyn yr Ail Ryfel Byd, manteisiodd yr awdurdodau ar eu cyfle i fynd â Niclas i’r llys yn 1939, pan basiwyd ‘Deddf Pwerau Argyfwng (Amddiffyn)’. Roedd y gyfraith yma yn caniatáu i’r awdurdodau garcharu unrhyw un a oedd yn ‘ymyrryd ag ymdrech y rhyfel’. Cyhuddwyd Niclas a’i fab Islwyn o fod yn Ffasgwyr, er bod y ddau yn Sosialwyr i’r carn!

Pan oedd Niclas ac Islwyn yng ngharchar Brixton, roedd yr ardal o’i amgylch yn cael ei bomio’n rheolaidd. Cawsant eu cloi yn eu celloedd heb olau wrth i awyrennau’r Almaenwyr hedfan uwchben. Yn y carchar roedden nhw’n cael eu cadw yn yr ardal ar gyfer ‘Dieithriaid’ (sef tramorwyr) a doedden nhw ddim yn cael mynd i’r llochesi fel y carcharorion eraill. Roedd rhaid iddyn nhw aros yn eu celloedd wrth i’r carchar grynu.

Yn ystod ei gyfnod yn y carchar, perffeithiodd Niclas grefft y soned. Roedd 14 llinell y soned yn ffitio’n berffaith ar ddarn o bapur tŷ bach – ac felly roedd yn gerdd berffaith ar gyfer bardd yn y carchar! Cyhoeddwyd y sonedau hyn yn ddiweddarach fel ‘Canu’r Carchar’ (a’u cyfieithu i’r Saesneg fel ‘Prison Sonnets’).

Ni fu Niclas fyw i weld y gymdeithas egalitariadd roedd yn breuddwydio amdani, ond mae ei weledigaeth yn parhau.