Welsh party leaders answer WCIA questions on global issues: Q6 of 6 / Arweinwyr pleidiau Cymru yn ateb cwestiynau WCIA ar faterion byd-eang: C6 o 6

Cymraeg

098d5507-c32f-4b16-ad4a-eed2bd53af57

UKIP were invited to participate but did not submit responses to the questions by the deadline.


Plaid Cymru

Trade relationships, the peace dividend since World War II, the financial support we qualify for because of our forced poverty which the UK Government would be unlikely to provide were we outside the EU. EU social policies protect key rights such as equality of opportunity, better protection for workers and for parents, children and young people. We are opposed to the proposed TTIP free trade agreement between the EU and the USA, as it too threatens to take away those rights. Leaving the EU would not protect us from TTIP, seeing as the UK Government is the driving force of deregulation in Europe. Therefore the only way to ensure a better European Union is to work collaboratively with social and progressive movements across Europe to push for a more democratic and socially just Union.

Wales Green Party

There are many issues – water pollution, air pollution, climate change, overfishing – for example, that do not respect borders. We need a body that works cross-nationally to deal with these issues. Similarly, we need a co-ordinated approach to home refugees, and are stronger if we work together to challenge powerful global corporations and tax evasion.
We do, however, need a reformed EU that is more transparent, accountable and democratic.

Welsh Conservatives

In June voters will have a say on Britain’s future in the European Union, for the first time in more than a generation. Thanks to the Conservatives, the future of our relationship with Europe will then be placed in the hands of the people – not politicians.
I want people to bear in mind the sheer importance of their decision at the ballot box. The impact that this will have on Wales’ economy, our public services and our national unity and security.

I have made my own position clear. I believe Wales future will be best served as part of a looser, economic relationship with the European Union. However, until the 5th of May has passed I will not be distracted from articulating our positive vision of real change for our NHS, education and economy in Wales – and neither should Welsh voters.

Welsh Liberal Democrats

The European referendum will be one of the defining votes of this generation. With the referendum on Britain’s membership of the European Union fast approaching, Welsh Liberal Democrats are proud to be united for IN. We believe that Britain must look to lead, not leave, the EU. We hope that Wales will recognise the many benefits to Wales of EU membership, such as access to the world’s largest single market, that the EU has brought half a century of peace to the continent, and the importance of the EU to international efforts to combat climate change.

Welsh Labour

People should give highest priority to their economic, social and environmental security – which is enhanced by our membership of the EU.
Join the discussion on Facebook and Twitter.


 


Arweinwyr pleidiau Cymru

Rhoddwyd gwahoddiad i UKIP gymryd rhan ond ni dderbyniwyd ymatebion i’r cwestiynau erbyn y dyddiad cau.


C6. Pa faterion ydych chi am i bleidleiswyr gael ar flaen eu meddyliad wrth i ni agosáu at refferendwm yr UE?

Plaid Cymru

Perthnasau masnach, y difidend heddwch ers yr Ail Ryfel Byd, y gefnogaeth ariannol yr ydym yn gymwys amdano oherwydd ein tlodi gorfodedig – byddai’n annhebygol y byddai Llywodraeth y DU yn eu darparu pe byddem y tu allan i’r UE. Mae polisïau cymdeithasol yr UE yn amddiffyn hawliau allweddol fel cydraddoldeb cyfleoedd, gwell gwarchodaeth i weithwyr a rhieni, plant a phobl ifanc. Rydym yn erbyn y cytundeb masnach TTIP sydd wedi’i gynnig rhwng yr UE ac UDA, gan ei fod yn bygwth cymryd yr hawliau hynny. Ni fyddai gadael yr UE yn ein hamddiffyn rhag TTIP, gan mai Llywodraeth y DU yw gyrrwr dadreoleiddio yn Ewrop.

Felly, yr unig ffordd o sicrhau Undeb Ewropeaidd well yw gweithio’n gydweithredol gyda mudiadau blaengar a chymdeithasol ledled Ewrop i roi pwysau am Undeb cymdeithasol a democrataidd mwy cyfiawn.

Plaid Werdd Cymru

Mae nifer o faterion – llygredd dŵr, llygredd aer, gor-bysgota – er enghraifft, nad ydynt yn parchu ffiniau. Rydym angen corff sydd yn gweithio’n draws-genedlaethol i ddelio gyda’r materion hyn. Yn yr un modd, rydym angen ymagwedd gydweithredol tuag at roi cartrefi i ffoaduriaid, ac rydym yn gryfach os ydym yn gweithio gyda’n gilydd i herio corfforaethau byd-eang pwerus ac osgoi treth. Fodd bynnag, rydym angen UE mwy diwygiedig sydd yn fwy tryloyw, atebol a democrataidd.

Ceidwadwyr Cymreig

Ym mis Mehefin bydd pleidleiswyr yn cael dweud eu dweud ar ddyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd, am y tro cyntaf mewn mwy na chenhedlaeth. Diolch i’r Ceidwadwyr, bydd dyfodol ein perthynas gydag Ewrop yn cael ei roi yn nwylo’r bobl – nid y gwleidyddion. Rwyf am i bobl gofio gwir bwysigrwydd eu penderfyniad yn y blwch pleidleisio. Yr effaith fydd hyn yn ei gael ar economi Cymru, ein gwasanaethau cyhoeddus a’n undod a’n diogelwch cenedlaethol.

Rwyf wedi nodi fy safle fy hun yn glir. Credaf y bydd dyfodol Cymru yn well fel rhan o berthynas economaidd fwy llac gyda’r Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, nes bod 5 Mai wedi pasio ni fydd fy sylw’n cael ei dynnu o fynegi ein gweledigaeth gadarnhaol o newid gwirioneddol ar gyfer ein GIG, addysg ac economi yng Nghymru – ac ni ddylai pleidleisiwyr Cymru chwaith.

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Bydd y refferendwm Ewropeaidd yn un o bleidleisiau diffiniol y genhedlaeth hon. Gyda’r refferendwm ar aelodaeth Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd yn agosau, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn falch o fod yn unedig i aros MEWN. Credwn fod rhaid i Brydain edrych ar arwain, nid gadael, yr UE. Gobeithiwn y bydd Cymru yn cydnabod y nifer o fanteision dros Gymru’n aros yn yr UE, fel mynediad at farchnad sengl fwy, fod yr UE wedi dod â dros hanner canrif o heddwch i’r cyfandir, a phwysigrwydd yr UE o ran ymdrechion rhyngwladol i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

Llafur Cymru

Dylai pobl roi’r flaenoriaeth uchaf i’w diogelwch economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol – sydd yn cael ei wella o fod yn aelod o’r UE.
Beth ydych chi’n feddwl o’r safbwyntiau hyn? Ymunwch â’r drafodaeth ar Facebook neu Twitter.